Saif Y Gelli, sy’n westy Gwely a Brecwast teuluol â thair llofft en-suite fodern, ym mhentref Llanfairfechan yng Ngogledd Cymru, ac mae’n swatio rhwng Afon Menai a mynyddoedd Eryri.
Mae Llanfairfechan wedi’i leoli’n hwylus oddi ar yr A55 rhwng Bangor a Chonwy, (45 munud yn unig o Gaer a Chaergybi), ac mae’n safle perffaith i archwilio Gogledd Cymru a golygfeydd godidog o’r môr a’r mynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Gwesty teuluol yw’r Gelli, ac mae’r tîm gŵr a gwraig, Annwen and Arwel Owen, sy’n berchen ar y lle ac yn ei redeg, yn brofiadol iawn yn y maes croeso; yn wir, buont yn croesawu gwesteion o bob cwr o’r byd ers dros 30 mlynedd.
Saif y gwesty mewn erw a mwy o erddi aeddfed sydd wedi’u tirlunio’n hardd, ar gyrion y pentref, ac mae’n guddfan dawel a llonydd rhag prysurdeb pentref Llanfairfechan. Ceir digonedd o le i barcio’n hwylus, oddi ar y ffordd yng ngwesty Gwely a Brecwast Y Gelli, felly pa un ai ydych chi’n cerdded neu’n gyrru’r car dyma’r lle perffaith i aros ynddo os ydych eisiau gwyliau cyfforddus, di-helbul.
Felly, os ydych chi’n ymweld â’r teulu, ffrindiau, Prifysgol Bangor, ar fusnes neu ar wyliau, gwesty Gwely a Brecwast Y Gelli yw’r lle perffaith i aros ynddo yng Ngogledd Cymru.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi yma yn fuan,
Annwen & Arwel Owen